|
||
|
|
||
|
||
|
Neges Diogelwch Cymunedol |
||
|
Rydym yn ymwybodol o bryderon gan drigolion ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a grwpiau mawr yn ymgynnull mewn rhannau o Borth Tywyn. Er bod gan bobl ifanc ac aelodau’r gymuned bob hawl i fwynhau mannau cyhoeddus, ni fydd ymddygiad sy’n achosi braw, gofid, bygythiad, difrod neu aflonyddwch i eraill yn cael ei oddef. Hoffem hefyd atgoffa pawb nad oes lle i droseddau casineb a digwyddiadau sy'n gysylltiedig â chasineb yn ein cymuned. Mae unrhyw ymddygiad sy'n targedu person oherwydd ei hil, ei grefydd, ei anabledd, ei gyfeiriadedd rhywiol, neu ei hunaniaeth drawsryweddol yn annerbyniol a gall fod yn drosedd. Os ydych chi'n gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau casineb, neu os oes gennych chi bryderon am gynulliadau mawr yn achosi problemau yn eich ardal, rhowch wybod amdano. Mae gwybodaeth gan y cyhoedd yn ein helpu i nodi patrymau, cyfeirio patrolau, a chymryd camau priodol. 📞 Rhowch wybod am ddigwyddiadau nad ydynt yn rhai brys drwy 101 neu ar-lein. 🚨 Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. Gyda'n gilydd, gallwn helpu i sicrhau bod Porth Tywyn yn parhau i fod yn gymuned ddiogel, groesawgar a pharchus i bawb. | ||
Reply to this message | ||
|
|





