|
||
|
|
||
|
||
|
Ymgysylltu â busnesau ynghylch ymosodiadau seiber |
||
|
Ar yr 28ain o Fai, cynhaliodd SCCH 8059 Jeff Kedward o NPPT De Ceredigion ynghyd â Paul a Dan o Ganolfan Seiber-Gydnerthedd Cymru ymweliadau â busnesau annibynnol lleol yng Nghastellnewydd Emlyn, gan roi cyngor a chodi ymwybyddiaeth mewn perthynas â seiberddiogelwch. Ymwelwyd â thua 25 o fusnesau i gyd gyda mwy o ymweliadau i'w cynnal yn y dyfodol agos. Os ydych chi'n fusnes bach neu ganolig, yn elusen, neu'n sefydliad sector cyhoeddus ac yn dymuno gwella eich seiberddiogelwch, ewch i'r ddolen ganlynol: Canolfan Seiberwydnwch Cymru
| ||
Reply to this message | ||
|
|






