|
||
|
|
||
|
||
|
Op Sceptre |
||
|
Mae Heddlu Dyfed-Powys unwaith eto’n ymuno â chydweithwyr ledled y wlad i fynd i’r afael â throseddau cyllyll fel rhan o’r ymgyrch genedlaethol Sceptre. Mae'r wythnos weithredu ddwywaith y flwyddyn yn rhedeg o Fai 18fed – 24ain ac yn rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd gael gwared ar gyllyll diangen wrth gownteri'r heddlu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Bydd biniau amnest ar draws yr heddlu wedi'u lleoli yn yr orsafoedd heddlu canlynol: Caerfyrddin Aberystwyth Aberteifi Hwlffordd Aberhonddu Y Drenewydd Eleni, mae Sceptre yn rhedeg ar yr un pryd ag Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Cyllyll Ymddiriedolaethau Ben Kinsella. Mae Ymddiriedolaeth Ben Kinsella yn sefydliad annibynnol sy'n anelu at fynd i'r afael â throseddau cyllyll trwy addysgu pobl ifanc, trwy gynnal gweithdai a gweithio gydag asiantaethau partner a rhieni. Dywedodd yr Arolygydd Darren Crockford: “Mae hon yn wythnos hanfodol o weithredu yr ydym ni, ynghyd â heddluoedd ledled y DU, yn cymryd rhan ynddi ddwywaith y flwyddyn. Fodd bynnag, nid yw ein hymdrech ymroddedig yn erbyn troseddau sy’n gysylltiedig â chyllyll byth yn lleihau. “Mae atafaelu cyllyll a gwneud arestio yn rhan bwysig o’r dull plismona, fodd bynnag, mae ffocws hefyd ar atal gwerthu a chyflenwi cyllyll sydd wedi’u bwriadu’n unswydd i niweidio, ynghyd â’u cyflenwi i bobl ifanc. “Rydym hefyd yn gweithio’n galed i nodi cludwyr cyllyll posibl ac yn ymgysylltu â phobl i ddeall pam y gallent ddewis cario cyllell, yna cynnig y gefnogaeth briodol. “Mae’n gwbl ddealladwy ei bod yn destun pryder mawr i’n cymunedau pan glywant am bobl yn cael eu hanafu neu eu lladd gan gyllyll, ond nid yw cario cyllell yn gwneud unrhyw un yn fwy diogel – mae cyllell fel arfer yn gwneud sefyllfa’n llawer gwaeth. “Yn ogystal â’n biniau amnest, bydd ein Timau Plismona Cymdogaeth ac Atal ymroddedig hefyd yn cynnal gweithgareddau ymgysylltu ac atal yn ystod yr wythnos. “Fodd bynnag, ni all plismona fynd i’r afael â’r broblem hon ar ei ben ei hun, felly byddwn yn ymgysylltu â’n partneriaid i gyfeirio pobl at waith ymyrryd/dargyfeirio i leihau’r bygythiad a’r risgiau o droseddau cyllyll.” “Cofiwch, os oes gennych bryderon am unrhyw un yn cario cyllell, gallwch ei riportio i’r heddlu neu’n ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111. Yn ogystal, os oes ardaloedd lle rydych chi’n byw neu’n treulio amser nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel ynddynt, gallwch riportio hyn ar wefan o’r enw StreetSafe . Caiff y wybodaeth a ddarparwch ei throsglwyddo i’r heddlu perthnasol a all wedyn asesu eich adroddiad a chymryd y camau angenrheidiol. “Mae adnoddau rhagorol ar gael hefyd i bobl ifanc a rhieni gan Ymddiriedolaeth Ben Kinsella, y gallwch ddod o hyd iddynt ar eu gwefan . “Mae atgyfnerthu peryglon cario cyllyll yn gam hanfodol wrth geisio atal y canlyniadau dinistriol y gall troseddau cyllyll eu cael, nid yn unig i ddioddefwyr a’u teuluoedd ond i’r gymuned gyfan.” Yn ogystal â biniau amnest sydd ar gael yn ystod Sceptre, mae canolfannau ailgylchu yn lle diogel i gael gwared ar gyllyll a llafnau nas defnyddiwyd. Gallwch ddod o hyd i'ch canolfan ailgylchu agosaf drwy edrych ar wefan y cyngor lleol perthnasol. Cyngor Sir Caerfyrddin: https://www.carmarthenshire.llyw.cymru Cyngor Sir Ceredigion: https://www.ceredigion.gov.uk/ Cyngor Sir Penfro: https://www.pembrokeshire.gov.uk/ Cyngor Sir Powys: https://www.powys.gov.uk/ Rhowch wybod am unrhyw bryderon ynghylch troseddau cyllyll drwy gydol y flwyddyn i'r heddlu drwy gysylltu â ni ar 101, neu 999 os oes argyfwng neu drosedd barhaus. I riportio trosedd ar-lein, cliciwch yma: https://www.dyfed-powys.police.uk/ro/report/
| ||
Reply to this message | ||
|
|






