|
Rydym yn ymwybodol o bryderon a godwyd gan drigolion yn dilyn adroddiadau am werthwyr o ddrws i ddrws yn gweithredu yn ardal Aberdaugleddau a Johnston.
Mae swyddogion lleol, ynghyd â'n Timau Plismona Cymdogaeth ac Atal, yn gweithio i sefydlu dilysrwydd y gwerthwyr hyn a byddant yn cynnal patrolau tra bod ymholiadau'n mynd rhagddynt.
✅ Yn y cyfamser, cynghorir aelodau'r cyhoedd i ymgyfarwyddo â'r cyngor atal sy'n ymwneud ag ymwelwyr digroeso, sydd i'w gael ar ein gwefan. Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai helpu gydag ymholiadau, cysylltwch â: 🖥️ | https://orlo.uk/Qe2k9 📧 | 101@dyfed-powys.police.uk 💬 | Anfonwch neges uniongyrchol atom ar y cyfryngau cymdeithasol 📞 | 101 Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser
Fel arall, cysylltwch â'r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555111, neu ymweld â crimestoppers-uk.org . |