|
||
|
|
||
|
||
|
Blaenoriaethau Lleol ASB - Diweddariad Ymddygiad Gwrthgymdeithasol |
||
|
Annwyl{FIRST_NAME} , Diolch i chi am gymryd rhan yn yr arolwg blaenoriaeth lleol yn ddiweddar, mae eich adborth parhaus am faterion lleol sy'n peri pryder yn hanfodol er mwyn ein galluogi i dargedu adnoddau'n effeithiol. Er na wnaethoch chi godi ASB - Ymddygiad Gwrthgymdeithasol fel pryder yn eich adborth diwethaf, mae'r mater hwn wedi cael ei godi gan aelodau eraill o'ch ardal leol felly roedden ni'n meddwl y byddech chithau hefyd yn hoffi derbyn y diweddariad hwn. Mae gorchymyn gwasgaru o dan Adran 35 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi'i awdurdodi ar gyfer yr ardal sy'n cwmpasu Canol Tref Ystradgynlais a Pharc Diemwnt. Gall mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn fater cymhleth, ac un sy'n gofyn am fewnbwn a chamau gweithredu gan fwy na'r heddlu yn unig. Nod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yw rhoi dioddefwyr yn gyntaf, gan roi pŵer i bobl leol a galluogi gweithwyr proffesiynol i ddod o hyd i'r atebion gorau ar gyfer eu hardal leol. Fe welwch chi lawer o wybodaeth am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar ein gwefan: https://www.dyfed-powys.police.uk/advice/advice-and-information/asb/asb/antisocial-behaviour Gobeithiwn fod y diweddariad hwn yn ddefnyddiol, os ydych chi wedi profi'r broblem hon neu os oes gennych chi wybodaeth am ddigwyddiad, rhowch wybod amdano gan ddefnyddio ein hoffer adrodd ar-lein yn https://www.dyfed-powys.police.uk/ro/report/asb/asb-v3/report-antisocial-behaviour/ neu ffoniwch y rhif di-argyfwng 101. Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â hyn ac unrhyw faterion eraill a godwch chi neu bobl yn eich ardal yn yr arolwg blaenoriaethau lleol. Mae'r adborth a roddwch yn dylanwadu ar y blaenoriaethau yr ydym yn canolbwyntio arnynt ac yn galluogi'r diweddariadau a gewch i fod yn fwy perthnasol. Cadwch lygad am ein hatgoffa arolwg cyfnodol. neu cliciwch y botwm arolwg isod i ddiweddaru eich blaenoriaethau nawr, mae wir yn helpu. {SURVEY [Dyfed-Powys Priority Survey -824-]} Yn olaf, cymerwch eiliad i raddio'r neges hon , mae hyn yn rhoi gwybod i ni a oedd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol ai peidio, gallwch hefyd ddefnyddio'r system i newid pa faterion rydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi amdanynt . Gallwch wneud y pethau hyn yn gyflym ac yn hawdd gyda'r botymau isod. | ||
Reply to this message | ||
|
|






